Ar gyfer y Gymraeg gweler y bar llywio ar waelod y dudalen
Ar gyfer y Gymraeg gweler y bar llywio ar waelod y dudalen
Cysylltwch â ni ar tirawenmarketgarden@gmail.com os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn
E-bostiwch ni ar tirawenmarketgarden@gmail.com
Rydym yn dosbarthu i ardaloedd o amgylch Gilwern gan gynnwys Bryn Llanelly, Clydach, Gofilon, Llan-ffwyst a'r Fenni.
Rydym yn ymdrechu i leihau gwastraff lle bynnag y bo modd felly byddwn yn defnyddio bocsys y gellir eu hailddefnyddio. Bydd pob cwsmer yn derbyn 2 focs fel y gellir casglu bocs yr wythnos flaenorol pan fydd eich bocs llawn yn cael ei ddosbarthu. Y cyfan mae hyn yn ei olygu yw y bydd angen i chi adael eich bocs gwag allan yn barod i ni ei gasglu ar fore dydd Iau. Byddwn yn dosbarthu’ch bocs llysiau wythnosol yn uniongyrchol i'ch drws ar ddydd Iau gan ddefnyddio ein fan drydan allyriadau sero.
Nid yw'n broblem, gallwn ei adael yn rhywle oer e.e. portsh, o dan goeden neu gyda chymydog. Rhowch wybod i ni ble sydd orau i chi.
Os byddwch i ffwrdd, mae gennych yr opsiwn o roi eich cyfran i gymydog neu ffrind neu gallwch ddewis rhoddi eich cyfran. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei ddosbarthu i Cwtch Angels y Fenni i'w rhoddi i aelwyd mewn angen a fyddai'n croesawu'n gynnes focs o lysiau wedi'u tyfu'n ffres. Dyma gyfle gwych i chi fod â rhan wrth gefnogi pobl mewn tlodi bwyd yn yr ardal leol. Mae prisiau ar gyfer aelodau’n is na bocsys unigol sy'n golygu ei bod yn parhau i fod yn fwy cost effeithiol i fod yn aelod hyd yn oed os byddwch yn colli ychydig wythnosau.
Bob wythnos byddwn yn dewis detholiad o gynnyrch ar gyfer y cyfrannau a fydd yn amrywio yn ystod y flwyddyn yn ôl yr hyn sydd ar gael yn dymhorol yn yr ardd. Ni allwn gynnig dewis o ba eitemau sy'n mynd i mewn i'ch cyfran ond os oes rhywbeth na allwch ei fwyta, rhowch wybod i ni a gallwn addasu eich cyfran orau y gallwn. Hefyd fel rhan o'r aelodaeth rydym yn cynnig grŵp whats app 'bocs coginio Tir Awen’ lle rhennir syniadau, awgrymiadau a ryseitiau i gael ysbrydoliaeth ynghylch sut a beth i'w goginio gyda'r gyfran wythnosol ddiweddaraf.
Yn ystod misoedd yr haf a'r hydref rydym yn tyfu'r holl lysiau sy'n mynd i mewn i'r bocsys. Yn ystod misoedd y gaeaf ac ar draws y cyfnod diffrwyth rydym yn gwneud cyfuniad, mae rhywfaint o'r llysiau'n cael eu tyfu gennym ac mae rhai yn dod o rywle arall. Bydd bob amser yn organig ac mor lleol â phosibl, fel arfer o Sir Fynwy neu Swydd Henffordd. Rydym yn credu bod adeiladu rhwydwaith o dyfwyr yn adeiladu cryfder yn ein system fwyd leol.
Rydym yn credu yng nghryfder rhwydweithiau cymunedol felly rhowch y gair ar led a rhowch wybod i'ch ffrindiau a'ch cymdogion am y gwaith rydym yn ei wneud. Os oes gennych sgiliau/arbenigedd yr hoffech eu rhannu gyda ni neu aelodau eraill, rydym yn ceisio adeiladu cymuned sy'n gallu gweithio gyda'i gilydd i fod yn gynaliadwy ac yn wydn. Dewch draw i wirfoddoli ar ein diwrnodau gweithio gydag eraill, mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl eraill, cael ymarfer corff, awyr iach a dod o hyd i a dysgu sgiliau newydd. Os bydd gennych unrhyw syniadau eraill, cysylltwch â ni!
Mae bod ag enw Cymraeg yn bwysig i ni gan ei fod yn ein cysylltu'n uniongyrchol â threftadaeth a diwylliant y tir a'r rhai a ddaeth o’n blaen. Mae enwau lleoedd Cymru’n ddisgrifiadol ac yn dwyn nodweddion y lle i gof. Mae Tir Awen yn enw sy'n arwyddocaol i ni ac yn cynrychioli ein cysylltiad â'r safle. Ystyr 'Tir' yn syml yw land. Nid oes gan 'Awen' gyfieithiad uniongyrchol i'r Saesneg ond gellir ei ddisgrifio fel ysbrydoliaeth neu awen i feirdd neu artistiaid eraill. Mae ganddo hefyd ystyr gref i draddodiadau Derwyddol sy'n darlunio 3 phelydryn o olau sy'n cynrychioli'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol neu gariad, gwybodaeth a gwirionedd. Mae meithrin cysylltiad cryf â Thir Awen wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni ac wedi ein harwain ar y daith hon. Gobeithio y bydd yn cynnig man cysylltu i chi hefyd.
Gardd Farchnad Tir Awen
Copyright © 2024 Tir Awen Market Garden - All Rights Reserved.
Powered by GoDaddy Website Builder